以下は曲の歌詞です Caerffosiaeth 、アーティスト - Gruff Rhys 翻訳付き
原文と翻訳
Gruff Rhys
Adeiladau mileniwm
Mewn ffug alminiwm
Goruwch-ystafelloedd
Am hanner miliwn o bunnoedd
Tyfwn adenydd
Tra’n yfed Ymennydd
Mewn tafarndai thema
A dim golwg o’r Wyddfa
Dw i’n byw a bod
Dw i’n byw a bod
Arnofio yn y bae
Yn y baw a’r dod
Coffi ewynnol, Cyflog derbyniol
Argae uffernol, Sgidiau ffasiynol
Saeri Rhyddion Yn rhedeg byrddion
Cyhoeddus, anweddus, Sefyllfa druenus
Dw i’n byw a bod, Dw i’n byw a bod
Arnofio yn y bae Yn y baw a’r dod
Dw i’n rhan o’r atal genhedlaeth
Ymfudwn o amaeth
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth
Dw i’n byw a bod, Dw i’n byw a bod
Arnofio yn y bae, Yn y baw a’r dod
様々な言語の楽曲
あらゆる言語への高品質な翻訳
必要なテキストを数秒で見つけます